Mae hi’n ddyddiau cynnar iawn ar Ymgyrch dros Ddemocratiaeth. Nid oes gennym unrhyw noddwyr mawr tu ôl i’r llenni nac unrhyw staff. Y cyfan ydyn ni yw grŵp o bobl gyffredin sydd am gael Cymru sy’n gweithio i bawb. Mi all gymryd ychydig o amser inni godi digon o arian i gyfieithu’r wefan gyfan i’r Gymraeg. Diolch ichi am eich amynedd.
Cymru sy'n gweithio i bawb
Ein Hetifeddiaeth
Dyled o £2,000,000,000,000, argyfwng tai, argyfwng gordewdra ac argyfwng newid hinsawdd.
Nid yw’r hyn rydym yn ei wneud yn gweithio, ond ni all y system wleidyddol sydd gennym ddatrys y problemau a wynebwn, yn wir mae’n gyfrifol am nifer ohonyn nhw, ac nid yw’r gallu ganddi i sicrhau newid ystyrlon. Mae systemau Ymgyrch dros Ddemocratiaeth yn trosglwyddo pwerau o’r gwleidyddion i’r bobl yng Nghymru. Byddwn yn gallu edrych o amgylch y byd, gweld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio, a dod â’r gorau yn ôl i Gymru. Ni fydd rhai gwleidyddion yn hapus gyda hynny ond rydym wedi canfod gwasgbwynt, sef ffordd o wneud i hyn ddigwydd.
The Pressure Point
Elections results aren't always decided by the millions of people who vote. They're often decided by a few thousand floating voters living in marginal constituencies. Floating voters are people who don't always vote for the same party and marginal seats are closely fought seats that switch from party to party at elections. For example, when Theresa May lost the 2017 election she lost by about 700 votes in nine marginal constituencies. In Wales where Labour dominate the 2021 result depended on the votes of about 10,000 people in six constituencies. In 2016 it was just three thousand voters.
These voters can have a huge amount of power at elections because they decide which party wins. Instead of making a choice we get them to make a demand, the demand being a transfer of power from politicians to people by the introduction of our system.
Whichever party accepts the demand first will get those votes and win the election.
General Election 2024
We can expect a General Election later this year so now is the time to plan and then run Campaign for Democracy.
It's looks like Labour are so far ahead nothing can stop them but Labour has a problem. When that is revealed everything will change and the campaign will run. To begin with we will target Labour seats in Wales and then spread the campaign across Britain.
Ein System
Ein System
Y rhan bwysicaf o’n system yw proses ddiwygio sy’n caniatáu inni greu unrhyw system lywodraethu a ddymunwn. Mae hefyd yn caniatáu inni herio’r dylanwadau ar ein system, dylanwadau megis pŵer corfforaethol, y cyfryngau a’r undebau. Mae ein system ni’n caniatáu i bobl, sefydliadau ymgyrchu a phleidiau i gyflwyno’u syniadau ar gyfer diwygio drwy broses all osgoi’r Senedd, ond er mwyn i gynnig gael ei fabwysiadu’n gyfraith rhaid iddo gael ei dderbyn gan y Senedd, neu os ydy’r Senedd yn gwrthod y cynnig, drwy refferendwm. Byddai’r defnydd o refferendwm ar gyfer diwygio’n arwain at alw am refferendwm ar unrhyw beth, felly rydym yn cynnwys hyn yn ein galwad. Cliciwch ar y botwm i gael gwybod mwy.
Change is needed but people have different ideas on what needs to change so rather than campaign for particular reforms we campaign for a reform process, something we can all agree is needed, and more importantly something we can all support.
Political parties only change things when it's to their advantage, or to the advantage of those who pay their bills and that's why nothing changes.
Our transparent, open and honest reform process breaks the logjam.
Direct Democracy systems allow people to initiate binding referendums, to make their own laws or remove laws they don't want but like any system if it's set up badly then it won't work any better than our so-called representative democracy, a form of democracy that is neither representative or democratic. The button above leads to a series of pages that show how best to combine Direct Democracy with Parliamentary democracy so we get the best of both systems.
Rydym yn gwybod beth yw’r problemau ac yn gwybod beth yw’r atebion ond allwn ni ddim datrys y problemau a wynebwn gyda’r systemau sydd gennym.
Mae Ymgyrch dros Ddemocratiaeth yn darparu’r arfau sydd eu hangen arnom i greu system wleidyddol sy’n gweithio i holl bobl Cymru.
Gwneud iddo Ddigwydd
We want a referendum on the introduction of our systems.
Bydd gwleidyddion yn gorfod trosglwyddo peth o’u pŵer i bobl Cymru ond fyddan nhw ddim am wneud hynny. Gallwch chi ein helpu i roi pwysau arnynt mewn dwy ffordd, trwy ddod yn gefnogwr, a thrwy ddefnyddio’ch pleidlais mewn sedd ymylol allweddol.
Does dim yn newid am nad yw’r rhai sydd â phŵer a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt am i bethau newid go iawn. Mae Ymgyrch dros Ddemocratiaeth yn gwneud newid yn bosibl drwy broses onest, glir a democrataidd sydd ar gael i bawb. Os mai dyna hoffech chi, yna mae’n rhaid ichi wneud hynny’n glir i’r gwleidyddion. Mae Ymgyrch dros Ddemocratiaeth yn gwneud hynny’n hawdd ichi felly ymunwch â ni nawr!
Yr Ymgyrch a’n Hegwyddorion
Dwy dudalen, sef Ymgyrch ac Egwyddorion, lle gallwch ddod o hyd i bopeth rydych am ei wybod am Ymgyrch dros Ddemocratiaeth, ei wreiddiau, y syniadau tu ôl i’r ymgyrch, beth yw’r sefyllfa bresennol, a sut fydd yr ymgyrch yn datblygu.
Mae’r syniadau gennym, rydym wedi dangos ein bod yn gwybod sut i gyfleu ein neges, ac yn bwysicaf oll, rydym yn gwybod sut i roi pwysau ar y gwleidyddion. Mae’r adran hon yn esbonio sut y byddwn ni’n mynd â’r ymgyrch ar draws Maldwyn ac i lawr i’n prif darged, sef Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Nid yw Ymgyrch dros Ddemocratiaeth yn seiliedig ar ryw ideoleg gul, unllygeidiog. Mae popeth a gynigiwn yn seiliedig ar yr hyn a wyddom am esblygiad, prosesau penderfynu da, ymddygiad dynol a sut mae systemau gwahanol yn effeithio ar ein hymddygiad. Yn yr adran hon rydym yn amlinellu’r pedwar syniad y dylai pob system eu cynnwys os ydyw am arwain at gymdeithas deg a chynaliadwy.
Y Bobl
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn onest a haelfrydig, felly mae cymryd y pŵer oddi ar wleidyddion a’i roi i bobl Cymru’n gwneud synnwyr, ond mae ‘na un neu ddau o gwestiynau pwysig sydd angen eu hateb. A allwn ni, y bobl, wneud penderfyniadau da, ac a allwn ni greu systemau sy’n dod â phobl at ei gilydd mewn ffordd na all y system wleidyddol ymrannol bresennol fyth ei wneud?